Diolch yn fawr iawn, Elinor. Dw i'n dal i arbrofi efo faint o bob un i'w defnyddio bob saith niwrnod, ond yn dechrau dod i ddeall. Mae'r cynhyrchion yn wych ac yn bendant yn gwneud fy ngwallt yn fwy llawn a'r cyrls yn fwy amlwg. Diolch i ti am dy waith yn arbrofi a chynhyrchu'r rhain. Dw i'n byw dros y bryn i'r gogledd o Gapel Bangor, felly dafliad carreg oddi wrth dy gartref! Darllen dy erthygl yn Y Tincer oedd dechrau'r daith i mi! Pob dymuniad da i ti gyda'r busnes. Gwenda (Wallace, Cefn-llwyd)